Revelation 17:16 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r dec corn y weleist ti ar yr enifel, yrrei ydynt y gasha y buttein, ac y gwna hi yn vnic ac yn hoeth, ac hwy y vwyttant y chig, ac y llosgant hi a than.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r deg corn, y rhai a welaist, a’r bwystfil, y rhai hyn a gasant y buttain, ac yn amddifad y’i gwnant hi, ac yn noeth; a’i chnawd a fwyttant; a hi ei hun a losgant â thân;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A’r deg corn a welaist, a’r bwystfil, hwy a gasânt y butain a’i gwneuthur yn ddiffaith a noeth, a bwytânt ei chnawd hi, a’i llosgi â thân;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r deg corn a welaist ar y bwystfil, y rhai hyn a gasânt y butain, ac a'i gwnânt hi yn unig ac yn noeth, a'i chnawd hi a fwytânt hwy, ac a'i llosgant hi â thân.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd y deg corn welaist ti, a'r anghenfil hefyd, yn dod i gasáu y butain. Byddan nhw yn ei dinistrio hi'n llwyr ac yn ei gadael yn gwbl noeth; byddan nhw'n llarpio ei chnawd ac yn ei llosgi â thân.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A'r deg corn a welaist, a'r bwystfil, byddant hwy'n casu'r butain, ac yn ei gadael yn ddiffaith ac yn noeth. Bwytnt ei chnawd hi a'i llosgi'n ulw thn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r deg corn, y rhai a welaist, a'r Anghenfil, y rhai hyn a gasânt y Butain, ac a'i gwnant hi yn anrheithiedig ac yn noeth; a'i chnawd hi a fwytânt hwy, ac a'i llosgant hi yn ulw â thân.