Revelation 17:2 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Gyda’r hon y mae brenhinoeð y ddayar gweðy godineby a deiled y ddayar gwedy meddwi a gwin y godineb hi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
gyda’r hon y putteiniodd brenhinoedd y ddaear, a meddwyd y rhai sy’n trigo ar y ddaear gan win ei phutteindra;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
yr hon y puteiniodd brenhinoedd y ddaear gyda hi, ac y meddwodd trigolion y ddaear ar win ei phuteindra.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gyda'r hon y puteiniodd brenhinoedd y ddaear, ac y meddwyd y rhai sydd yn trigo ar y ddaear gan win ei phuteindra hi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae brenhinoedd y ddaear wedi cael rhyw gyda hi, a phobl y byd i gyd wedi meddwi ar win ei hanfoesoldeb.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gyda hi y puteiniodd brenhinoedd y ddaear, ac ar win ei phuteindra y meddwodd trigolion y ddaear."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
gyda'r hon y puteiniodd brenhinoedd y ddaear, a meddwyd y rhai sydd yn trigo ar y ddaear gan win ei phuteindra.