Revelation 17:3 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef ymdygoedd yn yr ysbryd yr diffeith, ac mi weleis g wreic yn eiste dd ar enifel vn lliw ar scarlla, yn llawn o enwey enllibiys, a seith pen gantho a dec corn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a dug fi ymaith i’r anialwch yn yr Yspryd; a gwelais wraig yn eistedd ar fwystfil o liw ysgarlad, yn orlawn o enwau cabledd, a chanddo saith ben a deg corn;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dug fi yn yr ysbryd i anialwch. A gwelais wraig yn eistedd ar fwystfil ysgarlad, yn enwau cabledd drosto i gyd, a chanddo saith ben a deg corn.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a'm dygodd i i'r diffeithwch yn yr ysbryd: ac mi a welais wraig yn eistedd ar fwystfil o liw ysgarlad, yn llawn o enwau cabledd, a saith ben iddo, a deg corn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r angel yn fy nghodi fi dan ddylanwad yr Ysbryd a mynd â fi i anialwch. Yno gwelais wraig yn eistedd ar gefn anghenfil ysgarlad. Roedd gan yr anghenfil saith pen a deg corn, ac roedd wedi ei orchuddio gydag enwau cableddus.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna cludodd fi yn yr Ysbryd i anialwch. Gwelais wraig yn eistedd ar fwystfil ysgarlad ag enwau cableddus drosto i gyd, a chanddo saith ben a deg corn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A dug fi ymaith i anialwch yn yr Yspryd: a gwelais Wraig yn eistedd ar Anghenfil o liw ysgarlad, yn orlawn o enwau cabledd, a chanddo saith ben a deg corn.