Revelation 17:4 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Agwisc y wreic oedd pwrpwl a’ scarlla, a goreyred ac aur, a mein gwerthfor, a’ pherle, a chwppa n aur oedd ganthi yny llaw, yn llawn o wrthweyneb a brynti y godineb hi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a’r wraig oedd wedi ei dilladu â phorphor ac ysgarlad, a’i gwychu ag aur a maen gwerthfawr a pherlau, a chanddi gwppan aur yn ei llaw, yn orlawn o ffieidd-derau a phethau aflan ei phutteindra,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A’r wraig oedd wedi ei gwisgo â phorffor ac ysgarlad, a’i goreuro ag aur ac â charreg werthfawr ac â pherlau, a chanddi yn ei llaw gwpan aur yn llawn ffieidd-derau ac aflan bethau ei phuteindra,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r wraig oedd wedi ei dilladu â phorffor ac ysgarlad, ac wedi ei gwychu ag aur, ac â main gwerthfawr, a pherlau, a chanddi gwpan aur yn ei llaw, yn llawn o ffieidd-dra ac aflendid ei phuteindra.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd y wraig yn gwisgo gwisg o borffor ac ysgarlad, ac wedi addurno ei hun gyda thlysau o aur a gemau gwerthfawr a pherlau. Roedd ganddi gwpan aur yn ei llaw, yn llawn o bethau ffiaidd a budreddi ei hanfoesoldeb.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd y wraig wedi ei gwisgo phorffor ac ysgarlad, a'i thecu thlysau aur, gemau gwerthfawr ac pherlau. Yn ei llaw yr oedd ganddi gwpan aur yn llawn o ffieidd-dra ac aflendid ei phuteindra hi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Wraig oedd wedi ei dilladu â phorphor ac ysgarlad, a'i haddurno âg aur, a maen gwerthfawr, a pherlau, a chanddi yn ei llaw gwpan aur yn llawn o ffieidd‐derau a phethau aflan ei phuteindra hi,