Revelation 17:6 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac mi weleis y wreic yn veddw gan waed y Seint, a’ chan waed Merthyron Iesu: a’ phan y gweleis hi, mi rryveddeis a’ rryvedd mawr:
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A gwelais y wraig yn feddw gan waed y saint, a chan waed merthyron Iesu; a rhyfeddais, wrth ei gweled, â rhyfeddod mawr.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A gwelais y wraig yn feddw ar waed y saint ac ar waed tystion Iesu. Ac o’i gweled, rhyfeddais â rhyfeddod mawr.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac mi a welais y wraig yn feddw gan waed y saint, a chan waed merthyron Iesu: a phan ei gwelais, mi a ryfeddais â rhyfeddod mawr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwelais fod y wraig wedi meddwi ar waed pobl Dduw, sef gwaed y bobl hynny oedd wedi bod yn dystion i Iesu. Pan welais hi roeddwn i'n gwbl ddryslyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwelais y wraig yn feddw ar waed y saint ac ar waed tystion Iesu. Wrth edrych arni, rhyfeddais yn fawr iawn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A gwelais y Wraig yn feddw gan waed y Saint, a chan waed merthyron Iesu: a phan welais hi rhyfeddais â rhyfeddod mawr.