Revelation 17:7 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ar angel y ddwad wrthyf, Pa ham yrwydd yn rryfeddu? mi dangosaf yt ðirgelwch y wreic, a’r enifel ysyð yny dwyn hi, yr hwn ysydd a seith pen gantho, a dec corn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedodd yr angel wrthyf, Paham y rhyfeddaist? Myfi a ddywedaf i ti ddirgelwch y wraig, ac yr eiddo’r bwystfil sydd yn ei dwyn, yr hwn sydd a chanddo y saith ben a’r deg corn:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dywedodd yr angel wrthyf: Paham y rhyfeddaist? Dywedaf fi wrthyt ddirgelwch y wraig a’i bwystfil, ei chludydd hi, a chanddo’r saith ben a’r deg corn.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r angel a ddywedodd wrthyf, Paham y rhyfeddaist? myfi a ddywedaf i ti ddirgelwch y wraig a'r bwystfil sydd yn ei dwyn hi, yr hwn sydd â'r saith ben ganddo, a'r deg corn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma'r angel yn gofyn i mi, “Pam rwyt ti'n teimlo'n ddryslyd? Gad i mi esbonio i ti ystyr cudd y wraig a'r anghenfil mae hi'n eistedd ar ei gefn, yr un gyda'r saith pen a'r deg corn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gofynnodd yr angel imi, "Pam yr wyt yn rhyfeddu? Fe esboniaf fi iti ddirgelwch y wraig a'r bwystfil sy'n ei chario, y bwystfil y mae'r saith ben a'r deg corn ganddo.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r angel a ddywedodd wrthyf, Paham y rhyfeddaist? Myfi a ddywedaf i ti Ddirgelwch y Wraig, ac eiddo yr Anghenfil sydd yn ei dwyn hi, yr hwn sydd â'r saith ben ganddo a'r deg corn.
Recommended Reading