Revelation 17:8 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr enifel y weleist, y vu, ac nid ydiw, ac ef y ddaw y vyny dd or pwll heb waylod, ac ef eiff y ddinystraeth, a’ deiled y ddayar, y rryfeddant (enwey y rrein nyd ynt yn escrivennedic mewn Llyfr y bowyd er dechrey’r bud) pan edrychant ar yr enifel yr hwn ydoedd, ac nyd ydiw, ac eto y mae.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
y bwystfil yr hwn a welaist, a fu ac nid yw; ac y mae ar fedr dyfod i fynu o affwys, ac i ddistryw fyned; a rhyfedda y rhai sy’n trigo ar y ddaear, y rhai ni ’sgrifenwyd eu henw yn llyfr y bywyd er seiliad y byd, wrth weled o honynt y bwystfil, o herwydd y bu, ac nad yw, ac y daw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Y bwystfil a welaist, bu ac nid yw, ac y mae ar godi o’r pwll, ac ar y ffordd i ddistryw. A rhyfedda trigolion y ddaear, y sawl nad ysgrifennwyd eu henw ar lyfr y bywyd er seiliad y byd, o weled y bwystfil, iddo fod ac nad yw a’i fod ar ddyfod.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y bwystfil a welaist, a fu, ac nid yw; a bydd iddo ddyfod i fyny o'r pydew heb waelod, a myned i ddistryw: a rhyfeddu a wna'r rhai sydd yn trigo ar y ddaear, y rhai nid ysgrifennwyd eu henwau yn llyfr y bywyd er seiliad y byd, pan welont y bwystfil, yr hwn a fu, ac nid yw, er ei fod.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd yr anghenfil welaist ti yn fyw ar un adeg, ond ddim bellach. Ond mae ar fin dod allan o'r pydew diwaelod i gael ei ddinistrio. Bydd pawb sy'n perthyn i'r ddaear (y rhai dydy eu henwau nhw ddim wedi eu cofnodi yn Llyfr y Bywyd ers i'r byd gael ei greu), yn syfrdan pan fyddan nhw'n gweld yr anghenfil oedd yn fyw ar un adeg, ond ddim mwyach, ac sy'n mynd i ddod yn ôl eto.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ynglu375?n 'r bwystfil a welaist, yr oedd yn bod, ac nid yw'n bod, ond y mae ar fin codi o'r dyfnder a mynd i ddistryw. Bydd trigolion y ddaear, y rhai nad yw eu henwau'n ysgrifenedig yn llyfr y bywyd er seiliad y byd, yn rhyfeddu o weld y bwystfil; oherwydd yr oedd yn bod, ac nid yw'n bod, ac y mae i ddod.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr Anghenfil yr hwn a welaist, a fu ac nid yw, ac y mae ar ddyfod i fyny o Annwn, a myned i ddistryw. A rhyfeddu a wna y rhai sydd yn trigo ar y ddaear, y rhai nid yw eu henw wedi ei ysgrifennu yn Llyfr y Bywyd er seiliad y byd, wrth weled o honynt yr Anghenfil, yr hwn fu, ac nid yw, ac a ddaw.