Revelation 17:9 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ll’yma’r meddwl ys ydd a doethinep gantho. Y seith pen seith mynydd ydynt, ac yrrein ymaer wreic yn eiste, ymaent hevyd yn seith Brenin.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yma y mae’r deall y sydd a chanddo ddoethineb. Y saith ben, saith mynydd ydynt, lle y mae’r wraig yn eistedd arnynt; a saith brenhin ydynt;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dyna’r ystyr sydd â synnwyr iddi. Y saith ben, saith mynydd ydynt, lle’r eistedd y wraig.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dyma'r meddwl sydd â doethineb ganddo. Y saith ben, saith fynydd ydynt, lle mae'r wraig yn eistedd arnynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae angen meddwl craff a dirnadaeth i ddeall hyn. Saith bryn ydy'r saith pen mae'r wraig yn eistedd arnyn nhw. Maen nhw hefyd yn cynrychioli saith brenin.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yma y mae angen meddwl gwelediad ganddo: y saith ben, saith mynydd ydynt, ac arnynt y mae'r wraig yn eistedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Dyma y meddwl sydd â doethineb ganddo. Y saith ben, saith mynydd ydynt, lle y mae y Wraig yn eistedd arnynt; a saith brenin ydynt;