Revelation 18:1 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
AC yn ol hyn, mi weleis Angel arall yn dyfod y lawr or nef, a’ gallu mawr ganto, a goleyo wnaeth y ddayar gan y ’ogoniant ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ar ol y pethau hyn gwelais angel arall yn disgyn o’r nef, a chanddo awdurdod fawr; a’r ddaear a oleuwyd gan ei ogoniant.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Wedi hyn gwelais angel arall yn disgyn o’r nef, a chanddo awdurdod mawr, a goleuwyd y ddaear gan ei ddisgleirdeb.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ar ôl y pethau hyn mi a welais angel arall yn dyfod i waered o'r nef, ac awdurdod mawr ganddo; a'r ddaear a oleuwyd gan ei ogoniant ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna gwelais angel arall yn dod i lawr o'r nefoedd. Roedd ganddo awdurdod mawr, ac roedd ei ysblander yn goleuo'r ddaear.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ar l hyn gwelais angel arall yn disgyn o'r nef, a chanddo awdurdod mawr; a goleuwyd y ddaear gan ei ogoniant ef.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ar ol y pethau hyn gwelais angel arall yn dyfod i waered o'r nef, âg awdurdod mawr ganddo; a'r ddaear a oleuwyd gan ei ogoniant ef.