Revelation 18:10 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac hwy safant ymhell oddiwrthi gan ofn y phoen hi, dan ddwedyd, Gwae ni, gwae ni, y gaer vawr hono Babylon, y gaer gadarn: can ys mewn vn awr y ddoeth dy varn di.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
yn sefyll o hirbell gan ofn ei phoeniad, gan ddywedyd, Gwae, gwae, y ddinas fawr, Babulon, y ddinas gadarn, canys mewn un awr y daeth ei barn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
safant o hirbell gan ofn ei phoenedigaeth, a dywedyd: Gwae, gwae’r ddinas fawr, Babilon, y ddinas gadarn, canys mewn un awr y daeth dy farn.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan sefyll o hirbell, gan ofn ei gofid hi, a dywedyd, Gwae, gwae, y ddinas fawr honno, Babilon, y ddinas gadarn! oblegid mewn un awr y daeth dy farn di.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Byddan nhw'n sefyll yn bell i ffwrdd, mewn dychryn wrth weld beth mae'n ei ddioddef, ac yn gweiddi: ‘Och! Och! Ti ddinas fawr! Babilon, y ddinas oedd â'r fath rym! — Daeth dy ddiwedd mor sydyn!’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Safant o hirbell gan ofn ei phoenedigaeth, a dweud: "Gwae, gwae'r ddinas fawr, Babilon, y ddinas nerthol, oherwydd mewn un awr daeth arnat dy farn!"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gan sefyll o hir bell gan ofn ei phoenedigaeth hi, gan ddywedyd, Gwae, gwae, y Ddinas Fawr, Babylon, y Ddinas gadarn! Canys mewn un awr y daeth dy farn di.