Revelation 18:12 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Marsiandiaeth o aur ac ariā, a’ maen gwerthfawr, a pherle, a’ lliein‐mein, a’ phwrpul, a’ sidan, ac scarlla, a phop rryw o goed thyin, ac o bob llestr o ascwrn morfil, a’ phob llestr o goed gwerthvawrocaf, ac o bres, ac o hayarn, ac o vaen mynor,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
llong-lwyth o aur ac arian a maen gwerthfawr a pherlau a lliain main a phorphor a sidan ac ysgarlad; na phob coed citron, a phob llestr o ifori, a phob llestr o goed gwerthfawroccaf ac o bres ac o haiarn ac o faen marmor,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
nwyddau aur ac arian a charreg werthfawr a pherlau a lliain main a phorffor a sidan ac ysgarlad, pob pren thwmïon a phob llestr ifori a phob llestr o goed gwerthfawrocaf ac o bres ac o haearn ac o farmor,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Marsiandïaeth o aur, ac arian, a meini gwerthfawr, a pherlau, a lliain main, a phorffor, a sidan, ac ysgarlad, a phob coed thynon, a phob llestr o ifori, a phob llestr o goed gwerthfawr iawn, ac o bres, ac o haearn, ac o faen marmor,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
cargo o aur, arian, gemau gwerthfawr a pherlau, lliain main, defnydd porffor, sidan ac ysgarlad; nwyddau o goed Sitron, pethau wedi eu gwneud o ifori, a pob math o bethau eraill wedi eu gwneud o goed gwerthfawr, o efydd, haearn ac o farmor;
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
eu llwythi o aur ac arian, o emau gwerthfawr a pherlau, o liain main a sidan, o borffor ac ysgarlad; eu llwythi o bob pren persawrus ac o bob gwaith ifori a gwaith pren drudfawr neu bres neu haearn neu farmor;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Nwyddau o aur, ac arian, a meini gwerthfawr a pherlau, A llian main, a phorphor, a sidan, ac ysgarlad, A choed citrus, a phob llestr o ifori, a phob llestr o goed gwerthfawrocaf, Ac o brês, ac o haiarn ac o farmor,