Revelation 18:13 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac o sinamon, ac erogley, ac ireyd a’ ffrankynsens, a’ gwin, ac olew, a chan man, a’ gwenith, ac enifeilied, a’ defeid, a’ chyphyle, a’ siaredey, a gwasnaethwyr, ac eneidiey dynion.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a chinnamon ac amomon a pher-aroglau ac ennaint a thus a gwin ac olew a pheilliaid a gwenith ac ysgrubliaid a defaid; nac o feirch a cherbydau a chaeth-weision;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a sinamon ac amomon, a pherlysiau a myrr a thus a gwin ac olew a pheilliaid a gwenith a gwartheg a defaid, meirch a cherbydau a dynion yn gyrff ac eneidiau.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A sinamon, a pheraroglau, ac ennaint, a thus, a gwin, ac olew, a pheilliaid, a gwenith, ac ysgrubliaid, a defaid, a meirch, a cherbydau, a chaethweision, ac eneidiau dynion.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
sinamon a pherlysiau, arogldarth fel myrr a thus, hefyd gwin ac olew olewydd, blawd mân a gwenith; gwartheg, defaid, ceffylau a cherbydau; a chaethweision hefyd — ie, pobl yn cael eu gwerthu fel anifeiliaid.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
eu llwythi o sinamon, sbeis a pherlysiau, o fyrr a thus, o win ac olew, o flawd mn a gwenith, o wartheg a defaid, o geffylau a cherbydau, o gaethweision a bywydau pobl.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A sinamon, ac amomon, ac arogldarth, ac enaint, a thus, A gwin, ac olew, a pheilliaid, a gwenith; A gwartheg, a defaid, a thrafnidiaeth mewn meirch a cherbydau; Ac mewn caethweision ac eneidiau dynion.