Revelation 18:14 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
(A’r avaley y drachwenychoedd dy eneid ti, ymadawsant a thi, ar holl pethey breision, a gwychion aethant ffwrdd oddiwrthit, ac ny chey gyhvvrdd ac hwynt mwya ch)
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
nac eneidiau dynion: a chynhauaf dymuniad dy enaid di a aeth ymaith oddiwrthyt, ac mwyach ni chânt mo honynt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chiliodd dy ffrwyth, chwennych-beth dy enaid, oddi wrthyt, a diflannodd pob rhyw fraster a gwychder oddi wrthyt, ac ni cheir mohonynt byth mwy.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r aeron a chwenychodd dy enaid a aethant ymaith oddi wrthyt, a phob peth danteithiol a gwych a aethant ymaith oddi wrthyt; ac ni chei hwynt ddim mwyach.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Mae'r holl bethau roeddet ti'n dyheu amdanyn nhw wedi mynd! Dy holl gyfoeth a dy grandrwydd wedi diflannu! Fyddan nhw fyth yn dod nôl!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedant wrthi: "Y mae'r ffrwyth y chwenychodd dy enaid amdano wedi mynd oddi wrthyt, a'r holl wychder a'r ysblander oedd iti wedi diflannu oddi wrthyt, byth mwy i'w canfod!"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r ffrwythau a chwenychodd dy enaid a aeth ymaith oddiwrthyt, A phob peth danteithiol a gorwych a gollwyd gennyt; Ac mwyach ni chaiff dynion mo honynt.