Revelation 18:15 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Marsiantwyr y pethey hyn yrrein ymgofoythogasant, y safant ymhell oddiwrthi hi, rrac ofn y phoyn hi, yn wylo ac yn ochein,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Marchnattawyr y pethau hyn, y rhai a aethant yn oludog ganddi, o hirbell y safant gan ofn ei phoeniad,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Marsiandwyr y pethau hyn, a ymgyfoethogodd drwyddi, safant o hirbell gan ofn ei phoenedigaeth, dan wylo a galaru
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Marchnatawyr y pethau hyn, y rhai a gyfoethogwyd ganddi, a safant o hirbell oddi wrthi, gan ofn ei gofid hi, gan wylo a galaru.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd y bobl fusnes gafodd arian mawr wrth werthu'r pethau hyn iddi, yn sefyll yn bell i ffwrdd, mewn dychryn wrth weld beth mae'n ei ddioddef. Byddan nhw'n crïo ac yn galaru
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd masnachwyr y nwyddau hyn, a enillodd eu cyfoeth drwyddi hi, yn sefyll o hirbell gan ofn ei phoenedigaeth, yn wylo a galaru
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A marchnatâwyr y pethau hyn, y rhai a gyfoethogwyd ganddi, a safant o hirbell, gan ofn ei phoenedigaeth, gan wylo a galaru,