Revelation 18:17 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Cans mewn vn awr y cyfoeth mawr y ddiffeith oedd. A’ phob llong lywydd, ar holl pobl ysyð yn occopio llongey, ar llongwyr, ar sawl bynac ydynt yn trafaylu ar y mor, y safant ymhell,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys mewn un awr yr amddifadwyd y golud mor fawr. A phob llong-lywydd, a phob un yn hwylio i neb rhyw le, a llongwyr, a chynnifer ag ar y môr y mae eu gorchwyl,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
canys difodwyd cymaint cyfoeth mewn un awr. A phob meistr llong a phob un a hwylio i ryw fan, a morwyr a’r sawl sy’n gweithio ar y môr, safasant o hirbell
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oblegid mewn un awr yr anrheithiwyd cymaint cyfoeth. A phob llong-lywydd, a phob cwmpeini mewn llongau, a llongwyr, a chynifer ag y sydd â'u gwaith ar y môr, a safasant o hirbell,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r fath gyfoeth wedi ei ddinistrio mor sydyn!’ “Bydd capteiniaid llongau a phawb sy'n teithio ar y môr, yn forwyr a phawb arall sy'n ennill eu bywoliaeth o'r môr, yn sefyll yn bell i ffwrdd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
oherwydd diffeithio cymaint o gyfoeth mewn un awr!" Yna cafwyd pob capten llong a phob teithiwr ar fr, llongwyr a phawb sydd 'u gwaith ar y mr, yn sefyll o hirbell
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys mewn un awr yr anrheithiwyd golud mor fawr. A phob llong‐lywydd, a phob un yn hwylio i unrhyw le, morwyr, a chynifer ag sydd a'u gorchwylion ar y môr, a safasant o hirbell,