Revelation 18:19 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wy vwrant ddwst ar y penney, ac y lefant dan wylo, ac ochein a dwedyd, Gwae, gwae, y gaer vawr, yn yr hon y cyvothogwyt oedd a llōgey gātynt ar y mor, trwy y chost hi: cans mewn vn awr hi ddiffeithwyd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A bwriasant lwch ar eu pennau, a gwaeddasant dan wylo a galaru, gan ddywedyd, Gwae, gwae, y ddinas fawr, yn yr hon y cyfoethogwyd yr holl rai a chanddynt eu llongau ar y môr, o herwydd eu gwerthfawrogrwydd, canys mewn un awr yr amddifadwyd hi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A bwriasant lwch ar eu pennau, a gweiddi dan wylo a galaru, gan ddywedyd: Gwae, gwae’r ddinas fawr, yn yr hon yr ymgyfoethogodd yr holl rai sydd â llongau ar y môr drwy ei drudfawr bethau hi, oherwydd mewn un awr y gwnaethpwyd hi’n ddiffaith.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a fwriasant lwch ar eu pennau, ac a lefasant, gan wylo a galaru, a dywedyd, Gwae, gwae, y ddinas fawr honno, yn yr hon y cyfoethogodd yr holl rai oedd ganddynt longau ar y môr, trwy ei chost hi! oblegid mewn un awr yr anrheithiwyd hi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Byddan nhw'n taflu pridd ar eu pennau, ac yn crïo a galaru a gweiddi'n uchel: ‘Och! Och! Ddinas fawr! cafodd pawb oedd ganddyn nhw longau ar y môr gyfoeth am ei bod hi mor gyfoethog! Mae hi wedi ei dinistrio mor sydyn!’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bwriasant lwch ar eu pennau a gweiddi mewn dagrau a galar: "Gwae, gwae'r ddinas fawr, lle'r enillodd pawb a chanddynt longau ar y mr gyfoeth trwy ei golud hi, oherwydd ei diffeithio mewn un awr!"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hwy a fwriasant lwch ar eu pennau, Ac a lefasant, gan wylo a galaru, gan ddywedyd, Gwae, gwae, y Ddinas Fawr! Yn yr hon yr ymgyfoethogodd yr holl rai oedd ganddynt longau yn y môr, trwy ei thrysorau gwerthfawr; Canys mewn un awr yr anrheithiwyd hi.