Revelation 18:2 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A llefen y wnaeth ef yn rrymys a lleis ywchel, dan ddwedyd, E syrthioedd, ef syrthioedd, Babylon y gaer vawr hono, ac y mae hi yn drig ad le yr cythreiled, a’ chadwraeth pob ysbryd aflan, a nyth pob ederyn aflan cas.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A gwaeddodd â llais cadarn, gan ddywedyd, Syrthiodd, syrthiodd Babulon fawr, ac aeth yn drigfa cythreuliaid, ac yn gadwfa i bob yspryd aflan, ac yn gadwfa i bob aderyn aflan ac atgas:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A gwaeddodd â llais nerthol gan ddywedyd: Cwympodd, cwympodd Babilon fawr, ac aeth yn drigfa cythreuliaid ac yn warchodfa pob ysbryd aflan ac yn warchodfa pob aderyn aflan ac atgas;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a lefodd yn groch â llef uchel, gan ddywedyd, Syrthiodd, syrthiodd Babilon fawr honno, ac aeth yn drigfa cythreuliaid, ac yn gadwraeth pob ysbryd aflan, ac yn gadwraeth pob aderyn aflan ac atgas.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Cyhoeddodd yn uchel: “Mae wedi syrthio! Mae Babilon fawr wedi syrthio! Mae wedi troi'n gartref i gythreuliaid ac yn gyrchfan i'r holl ysbrydion drwg ac i bob aderyn aflan, ac i bob anifail aflan a ffiaidd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwaeddodd llais cryf: "Syrthiodd, syrthiodd Babilon fawr, aeth yn drigfa cythreuliaid, yn gyrchfa pob ysbryd aflan, yn gyrchfa pob aderyn aflan, ac yn gyrchfa pob bwystfil aflan ac atgas;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a lefodd â llef gref, gan ddywedyd, Syrthiodd, syrthiodd. Babylon Fawr. Ac aeth yn drigfa cythreuliaid, Ac yn gadwrfa pob yspryd aflan, Ac yn gadwrfa pob aderyn aflan ac atgas: