Revelation 18:20 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Y nef, llawēha arnei, ar ebostolion sancteið, a’r prophwydi: cans Dyw y roeð ych barn chwi erni.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ymhyfryda drosti, o nef, a’r seintiau a’r apostolion a’r prophwydi, canys barnodd Duw eich barnedigaeth ganddi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ymlawenha o’i herwydd, dydi nef a’r saint a’r apostolion a’r proffwydi, canys barnodd Duw eich condemniad chwi arni hi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Llawenha o'i phlegid hi, y nef, a chwi, apostolion sanctaidd a phroffwydi; oblegid dialodd Duw arni drosoch chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd lawen, nefoedd, am beth sydd wedi digwydd iddi, Byddwch lawen, chi bobl Dduw, a'i gynrychiolwyr a'i broffwydi — Mae Duw wedi ei barnu hi am y ffordd wnaeth hi eich trin chi!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
O nef, gorfoledda drosti, a chwithau'r saint, a'r apostolion a'r proffwydi, oherwydd y farn a roes hi arnoch chwi a roes Duw arni hi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ymhyfryda uwch ei phen, o nef, A'r Saint, a'r Apostolion, a'r Prophwydi; Canys Duw a gyflawnodd eich barnedigaeth chwi arni hi.