Revelation 18:21 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac yno vn Angel cadarn y gwnoedd maen megis maen melin, ac y bwroedd yr mor, dan ðwedyd, Ar vath rrym hyn y bwrir y gaer vawr Babylon, ac ny cheir hi mwya ch.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chododd un angel cadarn faen fel maen melin mawr, a bwriodd ef i’r môr gan ddywedyd, Fel hyn gyda rhuthr y bwrir Babulon, y ddinas fawr, ac ni cheir mo’ni mwyach;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chododd rhyw angel cryf faen fel maen melin mawr, a bwriodd ef i’r môr, gan ddywedyd: Felly gyda rhuthr y bwrir Babilon, y ddinas fawr, ac ni cheir hi mwyach.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac angel cadarn a gododd faen megis maen melin mawr, ac a'i bwriodd i'r môr, gan ddywedyd, Fel hyn gyda rhuthr y teflir Babilon, y ddinas fawr, ac ni cheir hi mwyach.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn dyma angel pwerus yn codi anferth o garreg fawr, tebyg i faen melin mawr, a'i thaflu i'r môr; ac meddai: “Dyna sut fydd Babilon, y ddinas fawr, yn cael ei bwrw i lawr yn ffyrnig — fydd neb yn ei gweld byth mwy!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cododd angel nerthol garreg debyg i faen melin mawr a'i thaflu i'r mr a dweud: "Yr un mor ffyrnig yr hyrddir i'r ddaear Fabilon, y ddinas fawr, ac nis ceir byth mwy.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac un angel cryf a gododd faen megys maen melin mawr, ac a'i bwriodd i'r môr, gan ddywedyd, Fel hyn gyda rhuthr nerthol, y bwrir Babylon, y Ddinas Fawr, Ac ni cheir hi ddim mwyach;