Revelation 18:22 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ny chlywir, yno ti mwy lleis telynorion, a’ chantoried, a’ phibyðion, a’ thrwmpedyddion, ac ny chyhwrddir ac vn creftwr, pa grefft bynac vo ynoti mwy, ac ny chlywir lleis maen melin ynoti mwy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a llais telynorion a cherddorion a phibyddion ac udganwyr ni chlywir mo’no ynot mwyach; a phob celfyddwr, o bob celfydd, ni cheir mo’no ynot mwyach; a swn maen melin ni chlywir mo’no ynot mwyach;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A sŵn telynorion a chantorion a phibyddion ac utganwyr nis clywir mwyach o’th fewn, a chrefftwr o unrhyw grefft nis ceir mwyach o’th fewn, a sŵn maen melin nis clywir ynot mwy,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A llais telynorion, a cherddorion, a phibyddion, ac utganwyr, ni chlywir ynot mwyach: ac un crefftwr, o ba grefft bynnag y bo, ni cheir ynot mwyach; a thrwst maen melin ni chlywir ynot mwyach;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Fydd dim sŵn telynau na cherddorion, ffliwtiau nac utgyrn, i'w clywed ynot eto. Neb sy'n dilyn unrhyw grefft i'w weld ynot eto. Dim sŵn maen melin yn troi;
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A sain telynorion a cherddorion a rhai'n canu ffliwt ac utgorn, nis clywir ynot byth mwy; a phob un sy'n dilyn unrhyw grefft, nis ceir ynot byth mwy; a su373?n maen y felin, nis clywir ynot byth mwy;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A llais telynorion a cherddorion a phibyddion ac udganwyr ni chlywir ynot ddim mwyach; Ac un crefftwr, o ba grefft bynnag y byddo, ni cheir ynot ddim mwyach; A llais maen melin ni chlywir ynot ddim mwyach: