Revelation 18:23 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ny welir ’oleyni canwyll ynoti mwy: ac ny chlywir lleis priodasvab a phriodasverch ynot i mwy: can ys dy varsiandwyr di oeddent bendevigion y dðayar: ac ath cyfareddion y twyllwyd yr holl nasioney.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a llewyrch llusern ni lewyrcha mo’no ynot mwyach; a llais priodas-fab a phriodas-ferch ni chlywir mo’no ynot mwyach; canys dy farchnattawyr oeddynt bennaethiaid y ddaear; canys trwy dy swyn-gyfaredd ar gyfeiliorn y dygpwyd yr holl genhedloedd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a golau lamp nis gwelir ynot mwy, a llais priodfab a phriodferch nis clywir ynot mwyach, canys mawrion y ddaear oedd dy farsiandwyr, ac â’th swyngyfaredd y twyllwyd yr holl genhedloedd,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A llewyrch cannwyll ni welir ynot mwyach; a llais priodasfab a phriodasferch ni chlywir ynot mwyach: oblegid dy farchnatawyr di oedd wŷr mawr y ddaear: oblegid trwy dy swyn-gyfaredd di y twyllwyd yr holl genhedloedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dim golau lamp i'w weld; Dim sŵn gwledd briodas i'w glywed. Ti oedd y ganolfan fusnes fwyaf dylanwadol yn y byd i gyd, hudaist y cenhedloedd a'u harwain ar gyfeiliorn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a golau lamp, nis gwelir ynot byth mwy; a llais priodfab a phriodferch, nis clywir ynot byth mwy. Mawrion y ddaear oedd dy fasnachwyr di, a thwyllwyd yr holl genhedloedd gan dy ddewiniaeth.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A goleuni llusern ni lewyrcha ynot ddim mwyach; A llais priod‐fab a phriod‐ferch ni chlywir ynot ddim mwyach: Oblegyd dy farchnatâwyr oeddynt dywysogion y ddaear; Canys trwy dy swyn‐gyfaredd di yr arweiniwyd yr holl genhedloedd ar gyfeiliorn.