Revelation 18:3 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Cans yr holl nasioney y yfasont o win digofent y godineb hi, a Brenhinoedd y ddayar y wneythont odineb yn g h yd a hi, a marsiantwyr y ddayar eithont yn gyfothog ion gan amylder y moythe hi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys gan win llid ei phutteindra y syrthiodd yr holl genhedloedd; a brenhinoedd y ddaear gyda hi a butteiniasant; a marchnattawyr y ddaear, trwy allu ei thrythyllwch yr aethant yn oludog.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
canys drwy win llid ei phuteindra hi y cwympodd yr holl genhedloedd, a phuteiniodd brenhinoedd y ddaear gyda hi, ac ymgyfoethogodd marsiandwyr y ddaear ar rwysg ei maswedd hi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oblegid yr holl genhedloedd a yfasant o win digofaint ei godineb hi, a brenhinoedd y ddaear a buteiniasant gyda hi, a marchnatawyr y ddaear a gyfoethogwyd gan amlder ei moethau hi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r holl genhedloedd wedi yfed gwin ei chwant anfoesol nwydwyllt. Mae brenhinoedd y ddaear wedi cael rhyw gyda'r butain, ac mae pobl fusnes y ddaear wedi ennill cyfoeth mawr o'i moethusrwydd eithafol.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
oherwydd o win llid ei phuteindra y mae'r holl genhedloedd wedi yfed. Puteiniodd brenhinoedd y ddaear gyda hi, ac ymgyfoethogodd masnachwyr y ddaear ar ddigonedd ei moethusrwydd hi."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys trwy win llid ei phuteindra y syrthiodd yr holl genhedloedd, A brenhinoedd y ddaear a buteiniasant gyda hi, A marchnatâwyr y ddaear a gyfoethogwyd trwy allu ei rhysedd hi.