Revelation 18:4 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac mi glyweis lleis arall o’r nef yn dwedyd, Ewch allan o hi vympobl, rrac ywch vod yn gygyfranawl oe phechodey, ac rrac ywch dderbyn gyfran oe phlae hi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chlywais lais arall o’r nef, yn dywedyd, Deuwch, Fy mhobl, allan o honi, fel na byddoch gydgyfrannogion o’i phechodau,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chlywais lef arall o’r nef yn dywedyd: Deuwch, fy mhobl, allan ohoni, fel na byddoch gyfrannog o’i phechodau ac na dderbynioch o’i phlâu;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac mi a glywais lef arall o'r nef yn dywedyd, Deuwch allan ohoni hi, fy mhobl i, fel na byddoch gyd-gyfranogion o'i phechodau hi, ac na dderbynioch o'i phlâu hi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn clywais lais arall o'r nefoedd yn dweud: “Fy mhobl, dewch allan o'r ddinas, er mwyn i chi beidio pechu gyda hi. Wedyn bydd y plâu fydd yn dod i'w chosbi hi ddim yn eich cyffwrdd chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna clywais lais arall o'r nef yn dweud: "Dewch allan ohoni, fy mhobl, rhag i chwi gyfranogi o'i phechodau, ac o'i phlu dderbyn rhan;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A chlywais lef arall o'r nef yn dywedyd, Deuwch, fy mhobl i, allan o honi, Fel na byddoch gyd‐gyfranogion o'i phechodau hi, Ac na dderbynioch o'i phläau hi;