Revelation 18:7 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yn gymeint ac y gogonianoedd hi y hun, ac byw mewn moythe, yn yr vn modd rrowch yði poen a thrymder: cans y mae hi yn dwedyd yny chalon, yr wyf yn eiste yn vrenhines, ac y nyd wyf yn weddw, ac ny welaf dim wylofent:
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
cymmaint ag y gogoneddodd ei hun ac y trythyllodd, y cymmaint arall rhoddwch iddi o boen a galar; canys yn ei chalon y dywedodd, Eistedd yr wyf yn frenhines, a gweddw nid wyf,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
cymaint ag yr ymogoneddodd ac yr ymfoethusodd, cymaint â hynny rhoddwch iddi o boenedigaeth a galar. Canys dywed yn ei chalon: Eisteddaf yn frenhines, a gweddw nid wyf, a galar nis gwelaf byth.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Cymaint ag yr ymogoneddodd hi, ac y bu mewn moethau, y cymaint arall rhoddwch iddi o ofid a galar: oblegid y mae hi yn dywedyd yn ei chalon, Yr wyf yn eistedd yn frenhines, a gweddw nid ydwyf, a galar nis gwelaf ddim.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn lle'r ysblander a'r moethusrwydd gymerodd iddi ei hun, rho'r un mesur o boen a gofid iddi hi. Mae hi mor siŵr ohoni hi ei hun! ‘Brenhines ydw i, yn eistedd ar orsedd; fydda i ddim yn weddw, a fydd dim rhaid i mi alaru byth!’ meddai.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
yn l mesur ei rhwysg a'i moethusrwydd, rhowch iddi boenedigaeth a galar. Oherwydd yn ei chalon y mae'n dweud, 'Rwy'n eistedd yn frenhines, nid gweddw wyf, a galar ni welaf byth.'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Cymaint ag y gogoneddodd hi ei hun, ac yr aeth yn foethus, Y cymaint y rhoddwch iddi o boen a galar; Oblegyd y mae hi yn dywedyd yn ei chalon, Yr wyf yn eistedd yn frenhines, A gweddw nid ydwyf, a galar nis gwelaf ddim.