Revelation 19:10 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac mi syrtheis gair bron y draed ef, y addoli ef: ac ef y ddwad wrthyf, Gwyl rrac gwneythur hynny: yr wyfi yn gydwasnaethwr a thi, ac vn oth vrodyr, ysydd gantynt testolaeth y Iesu, addola Ddyw: can ys tustolaeth y Iesu ydiw ysbryd y bryffodolaeth.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A syrthiais i lawr o flaen ei draed, i addoli ef; a dywedodd wrthyf, Gwel na wnelych hyn, canys cydwas â thi yr wyf, ac a’th frodyr y sydd a chanddynt dystiolaeth Iesu. Duw addola: canys tystiolaeth Iesu yw yspryd prophwydoliaeth.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yna syrthiais wrth ei draed i’w addoli, a dywed wrthyf: Gwylia, paid! cyd-was ydwyf â thi ac â’th frodyr sydd ganddynt dystiolaeth Iesu; addola Dduw. Oblegid tystiolaeth Iesu yw ysbryd proffwydoliaeth.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac mi a syrthiais wrth ei draed ef, i'w addoli ef. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Gwêl na wnelych hyn: cyd-was ydwyf i ti, ac i'th frodyr y rhai sydd ganddynt dystiolaeth Iesu. Addola Dduw: canys tystiolaeth Iesu ydyw ysbryd y broffwydoliaeth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna syrthiais i lawr wrth ei draed a'i addoli. Ond meddai, “Paid! Duw ydy'r unig un rwyt i'w addoli! Un sy'n gwasanaethu Duw ydw i, yn union yr un fath â ti a'th frodyr a'th chwiorydd sy'n glynu wrth y dystiolaeth sydd wedi ei rhoi gan Iesu. Mae'r dystiolaeth sydd wedi ei rhoi gan Iesu a phroffwydoliaeth yr Ysbryd yr un fath.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Syrthiais wrth ei draed i'w addoli, ond meddai wrthyf, "Paid! Cydwas thi wyf fi, ac 'th gymrodyr sy'n glynu wrth dystiolaeth Iesu; addola Dduw. Oherwydd tystiolaeth Iesu sy'n ysbrydoli proffwydoliaeth."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A syrthiais wrth ei draed i'w addoli ef. A dywed wrthyf, Gwel na wneli hyn: cyd‐was ydwyf â thi, ac â'th frodyr sydd yn dal tystiolaeth Iesu: addola Dduw: canys tystiolaeth Iesu yw yspryd prophwydoliaeth.