Revelation 19:11 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac mi weleis y nef yn agored, a’ syna march gwyn, ar vn y eisteddoedd arno, y elwid, Fyddlawn a’ chowir, ac y mae ef yn barny ac yn ymlað yn gyfiawn der.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A gwelais y nef wedi ei hagoryd; ac wele, farch gwyn; ac yr Hwn yn eistedd arno yn alwedig Ffyddlawn a Gwir;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A gwelais y nef yn agored, ac wele farch gwyn a’i farchogwr, Ffyddlon a Chywir wrth ei enw, ac mewn cyfiawnder y barn ac y rhyfela.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac mi a welais y nef yn agored, ac wele farch gwyn; a'r hwn oedd yn eistedd arno a elwid Ffyddlon a Chywir, ac mewn cyfiawnder y mae efe yn barnu ac yn rhyfela.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd y nefoedd yn llydan ar agor, ac o'm blaen i roedd ceffyl gwyn â marchog ar ei gefn. ‛Yr Un ffyddlon‛ ydy'r enw arno, a'r ‛Un gwir‛. Mae'n gyfiawn yn y ffordd mae'n barnu ac yn ymladd yn erbyn ei elynion.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwelais y nef wedi ei hagor, ac wele geffyl gwyn; enw ei farchog oedd Ffyddlon a Gwir, oherwydd mewn cyfiawnder y mae ef yn barnu ac yn rhyfela.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A gwelais y nef wedi ei hagoryd; ac wele, farch gwyn, a'r hwn oedd yn eistedd arno a elwid Ffyddlawn a Gwirioneddol; ac mewn cyfiawnder y mae efe yn barnu ac yn rhyfela.