Revelation 19:12 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ae lygeid ef oeddent mal flam dan, ac ar y ben ef oeddent llawer o goraney: ac yr ydoedd gantho enw yn escrivenedic, yr hwn ny adnaby neb ond ef y hun.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac mewn cyfiawnder y barna ac y rhyfela: ac Ei lygaid yn fflam dân; ac ar Ei ben, fitrau lawer; a Chanddo enw yn ysgrifenedig, yr hwn nid oedd neb yn ei wybod oddieithr Ef Ei hun;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A’i lygaid oedd yn fflam dân, ac ar ei ben ddïademau lawer, a chanddo enw yn ysgrifenedig nas gŵyr neb ond ef ei hun,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'i lygaid oedd fel fflam dân, ac ar ei ben yr oedd coronau lawer: ac yr oedd ganddo enw yn ysgrifenedig, yr hwn ni wyddai neb ond efe ei hun:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd ei lygaid fel fflam dân, ac roedd llawer o goronau ar ei ben. Roedd ganddo enw wedi ei ysgrifennu arno, a neb yn gwybod yr enw ond fe'i hun.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd ei lygaid fel fflam dn, ac ar ei ben yr oedd diademau lawer. Yn ysgrifenedig arno yr oedd enw na wyddai neb ond ef ei hun.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'i lygaid oedd yn fflam dân, ac ar ei ben, deyrn‐goronau lawer; a chanddo Enw yn ysgrifenedig, yr hwn nid edwyn neb ond efe ei hun;