Revelation 19:14 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r llyedd vvyr oeddent yny nef, y ddilinasont ef ar veirch gwnion, gwedy ymwisco a llien‐mein gwyn glan
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r lluoedd y sydd yn y nef a’i canlynent ar feirch gwynion, ac am danynt liain main gwyn a phur.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A’r byddinoedd yn y nef, canlynent ef ar feirch gwynion, wedi ymwisgo â lliain main purwyn.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r lluoedd oedd yn y nef a'i canlynasant ef ar feirch gwynion, wedi eu gwisgo â lliain main, gwyn, a glân.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd byddinoedd y nefoedd yn ei ddilyn, yn marchogaeth ar geffylau gwynion ac yn gwisgo dillad o liain main gwyn glân.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn ei ganlyn ar geffylau gwynion yr oedd byddinoedd y nef, wedi eu gwisgo lliain main disgleirwyn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r byddinoedd y rhai oedd yn y nef a'u canlynent ef ar feirch gwynion wedi eu dilladu â llian main gwyn a phur.