Revelation 19:15 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac oy eney ef yr aeth allan cleddey llym, y daro ac ef, yr cenedloedd: can ys ef y rriola hwynt a gwialen hayarn, ac ef yw yr hwn y sydd yn sathry y winwasc ddigofent, a’ llid Dyw hollalluawc.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac o’i enau dyfod allan y mae cleddyf llym, fel ag ef y tarawai y cenhedloedd; ac Efe a’u bugeilia â gwialen haiarn: ac Efe a sathr gerwyn win llid a digofaint Duw Hollalluog;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac o’i enau daw allan gleddau miniog, i daro’r cenhedloedd ag ef; a bugeilia hwynt â gwialen haearn; a sathr winwryf angerdd llid Duw hollalluog.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac allan o'i enau ef yr oedd yn dyfod gleddyf llym, i daro'r cenhedloedd ag ef: ac efe a'u bugeilia hwynt â gwialen haearn: ac efe sydd yn sathru cerwyn win digofaint a llid Duw Hollalluog.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd cleddyf miniog yn dod allan o'i geg, a bydd yn ei ddefnyddio i daro'r cenhedloedd i lawr. “Bydd yn teyrnasu drostyn nhw gyda theyrnwialen haearn.” Bydd yn sathru'r gwinwryf (sy'n cynrychioli digofaint ffyrnig y Duw Hollalluog).
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
O'i enau yr oedd cleddyf llym yn dod allan, iddo daro'r cenhedloedd ag ef; a bydd ef yn eu llywodraethu gwialen haearn, ac yn sathru gwinwryf llid digofaint Duw, yr Hollalluog.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac allan o'i enau ef y mae yn dyfod gleddyf llym, i daro y Cenhedloedd âg ef; ac efe a'u bugeilia hwynt â gwialen haiarn; ac efe a sathr gerwyn win digofaint llid Duw, yr Hollalluog.