Revelation 19:17 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac mi weleis Angel yn sefyll yny’r haul, ac yn llefen a lleis ywchel, dan ddwedyd wrth yr holl adar oeðent yn hedec trwy ganol y nef, Dowch, ac ymgynyllwch ynghyd at swper y Dyw mawr,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A gwelais angel yn sefyll yn yr haul: a gwaeddodd â llais mawr, gan ddywedyd wrth yr holl adar oedd yn ehedeg ynghanol y nef, Deuwch; casgler chwi ynghyd i swpper mawr Duw,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A gwelais angel yn sefyll yn yr haul, a gwaeddodd â llais uchel, gan ddywedyd wrth yr holl adar a ehedai yn yr entrych: Deuwch, ymgesglwch i swper mawr Duw,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac mi a welais angel yn sefyll yn yr haul; ac efe a lefodd â llef uchel, gan ddywedyd wrth yr holl adar oedd yn ehedeg trwy ganol y nef, Deuwch ac ymgesglwch ynghyd i swper y Duw mawr;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna gwelais angel yn sefyll ar yr haul, ac yn galw'n uchel ar yr holl adar oedd yn hedfan yn yr awyr, “Dewch at eich gilydd i fwynhau'r wledd sydd gan Dduw ar eich cyfer chi!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna gwelais angel yn sefyll yn yr haul, a gwaeddodd llais uchel wrth yr holl adar oedd yn hedfan yng nghanol y nef: "Dewch, ymgasglwch i wledd fawr Duw;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A gwelais angel yn sefyll yn yr haul; ac efe a lefodd â llef uchel, gan ddywedyd wrth yr holl adar sydd yn ehedeg yng nghanol y nef. Deuwch ac ymgesglwch ynghyd i Swper Mawr Duw,