Revelation 19:2 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Cans cywir a’ chyfiawn ydynt y varney ef: cans ef y varnoedd y byttein vawr, yr hon y lygroedd y ddayar ae godineb, ac y ddialoedd gwaed y weison y gollvvyd gan y llaw hi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
eiddo ein Duw ydynt, canys gwir a chyfiawn yw Ei farnau, canys barnodd y buttain fawr, yr hon a lygrodd y ddaear â’i phutteindra, canys dialodd waed Ei weision o’i llaw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
canys cywir a chyfiawn yw ei farnedigaethau ef; oherwydd barnodd y butain fawr a lygrodd y ddaear â’i phuteindra, a mynnodd iawn oddi ar ei llaw am waed ei weision.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oblegid cywir a chyfiawn yw ei farnau ef: oblegid efe a farnodd y butain fawr, yr hon a lygrodd y ddaear â'i phuteindra, ac a ddialodd waed ei weision ar ei llaw hi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae ei ddyfarniad e bob amser yn deg ac yn gyfiawn. Mae wedi condemnio'r butain fawr a lygrodd y ddaear gyda'i hanfoesoldeb rhywiol. Mae wedi dial arni hi am ladd y bobl oedd yn ei wasanaethu.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
oherwydd gwir a chyfiawn yw ei farnedigaethau ef, gan iddo farnu'r butain fawr a lygrodd y ddaear 'i phuteindra, a dial gwaed ei weision arni hi."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys gwir a chyfiawn yw ei farnau ef; Oblegyd efe a farnodd y Butain fawr, Yr hon a lygrodd y ddaear yn ei phuteindra, Ac a ddialodd waed ei weision ar ei llaw hi.