Revelation 19:20 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ond yr enifel y ddalwyd, ar proffwyd falst ynghyd ac ef yr hwn y wnaeth g wrthiey g air y vron ef, trwyr rrein y siomoedd ef hwynt y dderbynasant nod yr enifel, ar rrei addolasant y ddelw ef, Y ddoy yma y vwriwyd yn vyw yr pwll tan yn llosgi a brymstan.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chymmerwyd gafael yn y bwystfil, ac ynghydag ef yn y gau-brophwyd yr hwn a wnaeth yr arwyddion ger ei fron, â’r rhai yr arweiniodd ar gyfeiliorn y rhai a dderbyniasant nod y bwystfil, a’r rhai oedd yn addoli ei ddelw: yn fyw y bwriwyd hwy ill dau i’r llyn tân yn llosgi â brwmstan.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A daliwyd y bwystfil a chydag ef y gau broffwyd a wnaeth arwyddion ger ei fron a thwyllo â hwynt y sawl a gymerth nod y bwystfil ac a addolai ei ddelw ef; bwriwyd hwynt yn fyw ill dau i’r llyn tân yn llosgi â brwmstan.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A daliwyd y bwystfil, a chydag ef y gau broffwyd, yr hwn a wnaeth wyrthiau ger ei fron ef, trwy y rhai y twyllodd efe y rhai a dderbyniasent nod y bwystfil, a'r rhai a addolasent ei ddelw ef. Yn fyw y bwriwyd hwy ill dau i'r llyn tân yn llosgi â brwmstan.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond daliwyd yr anghenfil, a hefyd y proffwyd ffug oedd wedi gwneud gwyrthiau rhyfeddol ar ei ran. Gyda'i wyrthiau roedd wedi llwyddo i dwyllo y bobl hynny oedd wedi eu marcio gyda marc yr anghenfil ac wedi addoli ei ddelw. Cafodd yr anghenfil a'r proffwyd ffug eu taflu yn fyw i'r llyn tân sy'n llosgi brwmstan.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daliwyd y bwystfil, ac ynghyd ag ef y gau broffwyd oedd wedi gwneud arwyddion gwyrthiol o'i flaen i dwyllo'r rhai oedd wedi derbyn nod y bwystfil ac addoli ei ddelw ef. Bwriwyd y ddau yn fyw i'r llyn tn oedd yn llosgi brwmstan.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Anghenfil a ddaliwyd, a gyd âg ef yr oedd y Gau‐Brophwyd, yr hwn a wnaeth yr arwyddion ger ei fron ef, a'r rhai yr arweiniodd ar gyfeiliorn, y rhai a dderbyniasant nôd yr Anghenfil, a'r rhai a addolasant ei ddelw ef: yn fyw y bwriwyd hwy ill dau i'r Llyn Tân yn llosgi â brwmstan.