Revelation 19:21 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ relyw y las a chleddey’r vn ys ydd yn eiste dd ar y march, yr hwn gleddey ’sy yn dyvot allan oe eney, ar holl adar y lenwid yn llawn oe cic hvvy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r lleill a laddwyd â chleddyf yr Hwn oedd yn eistedd ar y march, yr hwn a ddaeth allan o’i enau Ef; a’r holl adar gawsant eu gwala o’u cnawd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A lladdwyd y gweddill â’r cleddau a ddaeth allan o enau’r un a eisteddai ar y march, a chafodd yr holl adar eu gwala o’u cnawd hwynt.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r lleill a laddwyd â chleddyf yr hwn oedd yn eistedd ar y march, yr hwn oedd yn dyfod allan o'i enau ef: a'r holl adar a gawsant eu gwala o'u cig hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Cafodd y gweddill ohonyn nhw eu lladd gan y cleddyf oedd yn dod allan o geg yr un oedd yn marchogaeth ar gefn y ceffyl. Daeth yr holl adar a gwledda ar y cyrff marw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Lladdwyd y gweddill 'r cleddyf oedd yn dod allan o enau marchog y ceffyl, a chafodd yr holl adar eu gwala o'u cnawd hwy.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r lleill a laddwyd â chleddyf yr hwn oedd yn eistedd ar y march, yr hwn a ddaeth allan o'i enau ef: a'r holl adar a gawsant eu gwala o'u cnawd hwynt.