Revelation 19:4 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ar pedwar arygen o henafied, ar pedwar enifel y syrthiasant y lavvr, ac addolasant Ddyw, oedd yn eiste dd ar yr eisteddle, dan ddwedyd, Amen, Hallelu‐ia h:
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac i lawr y syrthiodd y pedwar henuriad ar hugain, a’r pedwar anifail, ac addolasant Dduw, yr Hwn sydd yn Ei eistedd ar yr orsedd-faingc, gan ddywedyd, Amen; Halelwiah.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A syrthiodd y pedwar henuriad ar hugain a’r pedwar peth byw, ac addolasant Dduw sy’n eistedd ar yr orsedd, gan ddywedyd: Amen, Aleliwia.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A syrthiodd y pedwar henuriad ar hugain a'r pedwar anifail i lawr, ac a addolasant Dduw, yr hwn oedd yn eistedd ar yr orseddfainc; gan ddywedyd, Amen; Aleliwia.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r dau ddeg pedwar arweinydd ysbrydol a'r pedwar creadur byw yn syrthio i lawr ar eu hwynebau ac yn addoli Duw, oedd yn eistedd ar yr orsedd, a chanu: “Amen! Haleliwia!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Syrthiodd y pedwar henuriad ar hugain a'r pedwar creadur byw, ac addoli Duw, yr hwn sy'n eistedd ar yr orsedd, a dweud: "Amen! Halelwia!"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A syrthiodd i lawr y pedwar henuriad ar hugain a'r pedwar creadur byw, ac a addolasant Dduw yr hwn sydd yn eistedd ar yr Orsedd, gan ddywedyd, Amen, Haleliwia.