Revelation 19:5 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ lleis y ddoeth allan o’r eisteddle, yn dwedyd, Molianwch y n Dyw ni, y holl weision, ar rrei ydych yny ofni ef bychein a’ mawr ion.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A llais oddiwrth yr orsedd-faingc a ddaeth allan, yn dywedyd, Moliennwch ein Duw, Ei holl weision, y rhai sydd yn Ei ofni, bychain a mawrion.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A daeth llais allan o’r orsedd yn dywedyd: Molwch ein Duw ni, ei holl weision ef y sy’n ei ofni ef, fach a mawr.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A llef a ddaeth allan o'r orseddfainc, yn dywedyd, Moliennwch ein Duw ni, ei holl weision ef, a'r rhai ydych yn ei ofni ef, bychain a mawrion hefyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn dyma lais yn dod o'r orsedd yn dweud: “Molwch ein Duw! Pawb sy'n ei wasanaethu, a chi sy'n ei ofni, yn fawr a bach!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A daeth llais allan o'r orsedd yn dweud: "Molwch ein Duw ni, chwi ei holl weision ef, a'r rhai sy'n ei ofni ef, yn fach a mawr."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A llef a ddaeth allan o'r Orsedd, yn dywedyd, Molwch ein Duw ni, chwi ei holl weision ef, Y rhai ydych yn ei ofni ef, y bychain a'r mawrion.