Revelation 19:8 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ chanattay y wneithpwyd yði, ymwisco a llien‐mein pur a’ dysclaer: can ys y llien‐mein ydiw cyfiawnder y Saint.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a’i wraig a’i parottodd ei hun: a rhoddwyd iddi ei gwisgo â lliain main disglair, a phur;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a rhoddwyd iddi wisgo lliain main disgleirwyn; canys cyfiawnderau’r saint yw’r lliain main.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A chaniatawyd iddi gael ei gwisgo â lliain main glân a disglair: canys y lliain main ydyw cyfiawnder y saint.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae hi wedi cael gwisg briodas o ddefnydd hardd, disglair a glân.” (Mae'r defnydd hardd yn cynrychioli gweithredoedd da pobl Dduw.)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Rhoddwyd iddi hi i'w wisgo liain main disglair a gln, oherwydd gweithredoedd cyfiawn y saint yw'r lliain main."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A rhoddwyd iddi gael ymwisgo mewn llian main, ysblennydd, pur: canys y llian main yw cyfiawnderau y saint.