Revelation 19:9 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef y ddwad wrthyf, Esgrivenna, Bendigedic ynt y rrei y elwyr y wledd priodas yr Oen. Ac ef y ddwad wrthyf, Y geiriey hyn y Ddyw ydynt gy wir.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys y lliain main, cyfiawn weithredoedd y saint yw. A dywedodd wrthyf, Ysgrifena, Gwyn eu byd y rhai sydd wedi eu galw i swpper priodas Yr Oen. A dywedodd wrthyf, Y rhai hyn, geiriau gwir Duw ydynt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yna dywed wrthyf, Ysgrifenna: Gwyn eu byd y rhai a alwyd i wledd priodas yr Oen. A dywed wrthyf: Dyma wir eiriau Duw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd wrthyf, Ysgrifenna, Bendigedig yw'r rhai a elwir i swper neithior yr Oen. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Gwir eiriau Duw yw'r rhai hyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn dyma'r angel yn dweud wrtho i, “Ysgrifenna hyn i lawr: ‘Mae'r rhai sy'n cael gwahoddiad i wledd briodas yr Oen wedi eu bendithio'n fawr!’” Wedyn dyma fe'n dweud, “Neges gan Dduw ydy hon, ac mae'n wir.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd yr angel wrthyf, "Ysgrifenna: 'Gwyn eu byd y rhai sydd wedi eu gwahodd i wledd briodas yr Oen.'" Dywedodd wrthyf hefyd, "Dyma wir eiriau Duw."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A dywed wrthyf, ysgrifenna, Gwyn eu byd y rhai sydd wedi eu galw i Swper Priodas yr Oen. A dywed wrthyf, Gwirioneddol eiriau Duw yw y rhai hyn.