Revelation 2:10 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Nac ofna ddim or pethey y orvydd yd y oddef: synna, e ddervydd y bwrw y cythrel rrei o hanoch chwi y garchar, mal y gellyr ych profi, a’ chwi a gewch travayl deng niwrnod: bydd ffyddlawn hed myrvolaeth, a mi y rrof ytti coron y bowyd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Nac ofna’r pethau yr wyt ar fedr eu dioddef. Wele, ar fedr taflu rhai o honoch i garchar y mae diafol, fel y’ch profer; a bydd arnoch orthrymder ddeng niwrnod. Bydd ffyddlawn hyd angau, a rhoddaf i ti goron y bywyd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Nac ofna’r pethau yr wyt ar fedr eu dioddef. Wele y mae’r diafol ar fedr bwrw rhai ohonoch i garchar i’ch profi, a chewch flinfyd am ddeng niwrnod. Bydd ffyddlon hyd angau, a rhoddaf iti goron y bywyd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Nac ofna ddim o'r pethau yr ydwyt i'w dioddef. Wele, y cythraul a fwrw rai ohonoch chwi i garchar, fel y'ch profer; a chwi a gewch gystudd ddeng niwrnod. Bydd ffyddlon hyd angau, ac mi a roddaf i ti goron y bywyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Peidiwch bod ofn beth dych chi ar fin ei ddioddef. Galla i ddweud wrthoch chi fod y diafol yn mynd i brofi ffydd rhai ohonoch chi trwy eich taflu i'r carchar. Bydd pethau'n galed arnoch chi am gyfnod byr. Arhoswch yn ffyddlon i Dduw, hyd yn oed os bydd rhaid i chi farw. Wedyn cewch chi goron y bywyd yn wobr gen i.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Paid ag ofni'r pethau yr wyt ar fedr eu dioddef. Wele, y mae'r diafol yn mynd i fwrw rhai ohonoch i garchar er mwyn eich profi, ac fe gewch orthrymder am ddeg diwrnod. Bydd ffyddlon hyd angau, a rhof iti goron y bywyd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Nac ofna y pethau yr wyt ar fedr eu dyoddef. Wele, y Diafol sydd ar fedr bwrw rhai o honoch i garchar, fel y'ch profer; a chwi a gewch orthrymder ddeng niwrnod. Bydd ffyddlawn hyd angau, a rhoddaf i ti Goron y Bywyd.