Revelation 2:11 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ysydd a chlyst gantho, gwrandawed pa beth y ddwed yr ysbryd wrth yr eglwysi, Ny chlwyfir y gortrechwr gan yr eil marvolaeth.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yr hwn sydd a chanddo glust, gwrandawed pa beth y mae’r Yspryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi. Yr hwn sy’n gorchfygu, ni niweidir ddim gan yr ail farwolaeth.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth a ddywed yr ysbryd wrth yr eglwysi: Yr hwn sy’n gorchfygu, ni chaiff niwed oddi wrth yr ail farwolaeth.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth y mae'r Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi; Yr hwn sydd yn gorchfygu, ni chaiff ddim niwed gan yr ail farwolaeth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwrandwch yn ofalus ar beth mae'r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr eglwysi. Fydd y rhai sy'n ennill y frwydr ddim yn cael unrhyw niwed gan beth sy'n cael ei alw yn ‛ail farwolaeth‛.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y sawl sydd chlustiau ganddo, gwrandawed beth y mae'r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr eglwysi. Y sawl sy'n gorchfygu, ni chaiff niwed gan yr ail farwolaeth.'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth y mae yr Yspryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi. Yr hwn sydd yn gorchfygu ni chaiff ddim niwed gan yr Ail Farwolaeth.