Revelation 2:12 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac Escrifena at Angel Eglwys Pergamus, Hyn ymay ef yny Ddwedyd y sydd ar cleddey llym day vinioc.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac at angel yr eglwys yn Pergamus ysgrifena, Hyn a ddywaid yr Hwn sydd a Chanddo y cleddyf dau-finiog llym,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac at angel yr eglwys ym Mhergamus ysgrifenna: Dyma a ddywed yr hwn sydd ganddo’r cleddau deufin llym:
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac at angel yr eglwys sydd yn Pergamus, ysgrifenna; Y pethau hyn y mae'r hwn sydd ganddo'r cleddyf llym daufiniog, yn eu dywedyd;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Ysgrifenna hyn at arweinydd yr eglwys yn Pergamus: ‘Dyma beth mae'r un sydd â'r cleddyf miniog ganddo yn ei ddweud:
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Ac at angel yr eglwys yn Pergamus, ysgrifenna: 'Dyma y mae'r hwn sydd 'r cleddyf llym daufiniog ganddo yn ei ddweud:
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac at angel yr eglwys yn Pergamum ysgrifenna: Y pethau hyn a ddywed yr hwn sydd ganddo y cleddyf dau‐finiog llym.