Revelation 2:13 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Mi adwen dy weithredoedd ath trig ad le ’sef lle may eiteddley Satan, a thi y gedweist vy Enw i, ac vy ffudd i nys gwedeist, ac yn y dyddiey pan las vu ffuðlon merthyr Antipas yn ych plith chwi, lle may Satan yn drigadwy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gwn pa le y trigi, sef lle y mae gorsedd-faingc Satan; a dal yn dỳn Fy enw yr wyt, ac ni wedaist Fy ffydd hyd yn oed yn y dyddiau yr oedd Antipas Fy nhyst, Fy ffyddloniad, yr hwn a laddwyd yn eich plith, lle y mae Satan yn trigo.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gwn ym mh’le y trigi, lle y mae gorsedd Satan; ac yr wyt yn dal gafael yn fy enw i, ac ni wedaist fy ffydd i hyd yn oed yn y dyddiau y lladdwyd Antipas fy nhyst ffyddlon i yn eich plith chwi, lle y trig Satan.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Mi a adwaen dy weithredoedd di, a pha le yr wyt yn trigo; sef lle mae gorseddfainc Satan: ac yr wyt yn dal fy enw i, ac ni wedaist fy ffydd i, ie, yn y dyddiau y bu Antipas yn ferthyr ffyddlon i mi, yr hwn a laddwyd yn eich plith chwi, lle y mae Satan yn trigo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n gwybod dy fod ti'n byw yn y ddinas lle mae gorsedd Satan. Ond rwyt ti wedi aros yn ffyddlon i mi. Wnest ti ddim gwadu dy fod yn credu ynof fi, hyd yn oed pan gafodd Antipas ei ladd lle mae Satan yn byw. Roedd e'n ffyddlon, ac yn dweud wrth bawb amdana i.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwn ym mhle yr wyt yn trigo, sef lle mae gorsedd Satan; ac eto yr wyt yn glynu wrth f'enw i, ac ni wedaist dy ffydd ynof fi, hyd yn oed yn nyddiau fy nhyst Antipas, a fu'n ffyddlon i mi ac a laddwyd yn eich mysg chwi, lle mae Satan yn trigo.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gwn pa le yr wyt yn trigo, sef lle y mae gorsedd Satan: ac yr wyt yn dal dy afael yn fy Enw i, ac ni wedaist fy Ffydd i, hyd yn nod yn nyddiau Antipas fy nhyst, fy un ffyddlawn i, yr hwn a laddwyd yn eich plith chwi, lle y mae Satan yn trigo.