Revelation 2:14 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithr y may genyf ychydic ion yth erbyn, cans y may yno genyd rrei yn dala dysc Balaam, yn yr hwn y ddyscoedd Balac, y vwrw plocyn tramcwyddys gar bron meibion yr Israel, er yddynt vwytta or pethey y aberthwyd u ddelwey, a godineby.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Eithr y mae Genyf yn dy erbyn ychydig bethau, gan fod genyt yno rai yn dal dysgad Balaam, yr hwn a ddysgodd i Balac fwrw tramgwydd o flaen meibion Israel, i fwytta pethau a aberthwyd i eulunod, ac i odinebu.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Eithr y mae gennyf ychydig bethau yn dy erbyn, — bod gennyt yna rai yn dal athrawiaeth Balaam, yr hwn a ddysgai i Falac fwrw tramgwydd o flaen meibion Israel, sef bwyta pethau a aberthwyd i eilunod a phuteinio.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr y mae gennyf ychydig bethau yn dy erbyn di, oblegid bod gennyt yno rai yn dal athrawiaeth Balaam, yr hwn a ddysgodd i Balac fwrw rhwystr gerbron meibion Israel, i fwyta pethau wedi eu haberthu i eilunod, ac i odinebu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Er hynny, mae gen i bethau yn dy erbyn: Mae rhai pobl acw yn gwneud beth oedd Balaam yn ei ddysgu. Balaam ddysgodd Balac i ddenu pobl Israel i bechu. Gwnaeth iddyn nhw fwyta bwyd wedi ei aberthu i eilun-dduwiau a phechu'n rhywiol.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond y mae gennyf ychydig bethau yn dy erbyn, fod gennyt rai yna sy'n glynu wrth athrawiaeth Balaam, a ddysgodd i Balac osod magl i blant Israel, a pheri iddynt fwyta pethau a aberthwyd i eilunod, a phuteinio;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr y mae gennyf ychydig bethau yn dy erbyn di, oblegyd bod gennyt yna rai yn dal dysgeidiaeth Balaam, yr hwn a ddysgodd i Balac fwrw tramgwydd o flaen meibion Israel, i fwyta pethau a aberthwyd i eilunod, ac i odinebu.