Revelation 2:15 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Velly hefyd y may genyd rrei yn dala dusc y Nicolaitait, yr hyn yr wyfi yn y gasay.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Felly yr wyt tithau hefyd a chenyt rai yn dal dysgad y Nicolaiaid yn y cyffelyb fodd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly hefyd y mae gennyt tithau rai yn dal athrawiaeth y Nicolaiaid yr un modd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Felly y mae gennyt tithau hefyd rai yn dal athrawiaeth y Nicolaiaid, yr hyn beth yr wyf fi yn ei gasáu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A'r un fath, mae yna rai ohonoch chi hefyd sy'n dilyn beth mae'r Nicolaiaid yn ei ddysgu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
yn yr un modd, y mae gennyt tithau hefyd rai sy'n glynu wrth athrawiaeth y Nicolaiaid.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Felly y mae gennyt tithau hefyd rai yn dal dysgeidiaeth y Nicolaiaid yr un modd.