Revelation 2:17 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ysydd a chlyst gantho, gwrandawed pa beth y ddwed yr ysbrud wrth yr Eglwysi, Yr gortrechwr, mi rrof y vwytta or Manna ysydd gyddiedic, ac mi rrof yddo ef garec wen, ac yn u garec enw newydd yn escrivenedic, yr hwn ny adnebydd neb, ond ae herbyno.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yr hwn sydd a chanddo glust, gwrandawed pa beth y mae yr Yspryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi. I’r hwn sy’n gorchfygu y rhoddaf iddo o’r manna cuddiedig; a rhoddaf iddo garreg wen, ac ar y garreg enw newydd wedi ei ’sgrifenu, yr hwn nid oes neb yn ei adnabod oddieithr yr hwn sydd yn ei dderbyn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth a ddywed yr ysbryd wrth yr eglwysi: I’r hwn sy’n gorchfygu, rhoddaf iddo o’r manna cuddiedig, a rhoddaf iddo garreg wen, ac ar y garreg enw newydd yn ysgrifenedig nas edwyn neb ond a’i derbynio.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth y mae'r Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi; I'r hwn sydd yn gorchfygu, y rhoddaf iddo fwyta o'r manna cuddiedig, ac a roddaf iddo garreg wen, ac ar y garreg enw newydd wedi ei ysgrifennu, yr hwn nid edwyn neb, ond yr hwn sydd yn ei dderbyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwrandwch yn ofalus ar beth mae'r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr eglwysi. Bydd y rhai sy'n ennill y frwydr yn cael bwyta'r manna sydd wedi ei gadw o'r golwg. Bydda i hefyd yn rhoi carreg wen i bob un ohonyn nhw. Bydd enw newydd wedi ei ysgrifennu ar y garreg, a neb yn gwybod yr enw ond y sawl sy'n derbyn y garreg.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y sawl sydd chlustiau ganddo, gwrandawed beth y mae'r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr eglwysi. I'r sawl sy'n gorchfygu, rhof gyfran o'r manna cuddiedig, a rhof hefyd garreg wen, ac yn ysgrifenedig ar y garreg enw newydd na fydd neb yn ei wybod ond y sawl sydd yn ei derbyn.'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth y mae yr Yspryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi. I'r hwn sydd yn gorchfygu, y rhoddaf iddo o'r manna cuddiedig, a rhoddaf iddo garreg wen, ac ar y garreg Enw newydd wedi ei ysgrifennu, yr hwn nid edwyn neb ond yr hwn sydd yn ei dderbyn.