Revelation 2:19 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Mi adwen dy weythredoedd ath cariad, a th wasanaeth, a th ffydd, ath goddeviad, ath weithredoedd, a’ bot y diwethaf yn rragori ar y cyntaf.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a’i draed yn debyg i Chalcolibanus, Gwn dy weithredoedd, a’th gariad, a’th ffydd, a’th weinidogaeth, a’th amynedd; a’th weithredoedd diweddaf ydynt amlach na’r rhai cyntaf.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gwn am dy weithredoedd a’th gariad a’th ffydd a’th wasanaeth a’th amynedd, a bod dy weithredoedd diwethaf yn amlach na’r rhai cyntaf.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Mi a adwaen dy weithredoedd di, a'th gariad, a'th wasanaeth, a'th ffydd, a'th amynedd di, a'th weithredoedd; a bod y rhai diwethaf yn fwy na'r rhai cyntaf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n gwybod am bopeth wyt ti'n ei wneud — am dy gariad, dy ffyddlondeb, dy wasanaeth a'th allu i ddal ati; a dw i'n gweld dy fod yn gwneud mwy o dda nawr nag oeddet ti ar y cychwyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwn am dy weithredoedd, dy gariad, dy ffydd, dy wasanaeth, dy ddyfalbarhad, a gwn fod dy weithredoedd diwethaf yn fwy lluosog na'r rhai cyntaf.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Mi a adwaen dy weithredoedd di, a'th gariad, a'th ffydd, a'th wasanaeth, a'th amynedd; a'th weithredoedd diweddaf sydd fwy na'r cyntaf.