Revelation 2:20 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithr ymae genyf ychydic bethe yth erbyn, am yd goddef y wreic hono Iezabel, yr hon ysydd yn galw y hyn yn broffwydes, y ddusgy ac y dwyllo vyngwasnaethwyr i y beri yddynt g odyneby, ac y vwytta bwydydd gwedy y aberthy y ddelwey.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Eithr y mae Genyf yn dy erbyn dy fod yn gadael i’r wraig Iezabel, yr hon sy’n galw ei hun yn brophwydes, a dysgu y mae ac yn arwain ar gyfeiliorn Fy ngweision i odinebu a bwytta pethau a aberthwyd i eulunod.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Eithr y mae gennyf yn dy erbyn dy fod yn goddef y wraig Jesebel, a’i geilw ei hun yn broffwydes, ac a ddysg ac a arwain ar gyfeiliorn fy ngweision i buteinio a bwyta pethau a aberthwyd i eilunod.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr y mae gennyf ychydig bethau yn dy erbyn, oblegid dy fod yn gadael i'r wraig honno Jesebel, yr hon sydd yn ei galw ei hun yn broffwydes, ddysgu a thwyllo fy ngwasanaethwyr i odinebu, ac i fwyta pethau wedi eu haberthu i eilunod.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Er hynny, mae gen i rywbeth yn dy erbyn di: Rwyt ti'n goddef y wraig yna, y ‛Jesebel‛ sy'n galw ei hun yn broffwydes. Mae hi'n dysgu pethau sy'n camarwain y rhai sy'n fy ngwasanaethu i. Mae hi'n eu hannog nhw i bechu'n rhywiol a bwyta bwyd sydd wedi ei aberthu i eilun-dduwiau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond y mae gennyf hyn yn dy erbyn, dy fod yn goddef y wraig honno, Jesebel, sy'n ei galw ei hun yn broffwydes, a hithau'n dysgu ac yn twyllo fy ngweision i buteinio a bwyta pethau a aberthwyd i eilunod.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr y mae gennyf hyn yn dy erbyn di, oblegyd dy fod yn goddef i'r wraig Jezebel, yr hon sydd yn galw ei hun yn brophwydes; ac y mae hi yn dysgu ac yn hud‐ddenu fy ngweision i odinebu a bwyta pethau a offrymwyd i eilunod.