Revelation 2:22 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Syna, mi a bwraf hi ywely, ar sawl a wnāt odineb gyd a hi, y gospedigaeth mawr, onyd etiferhant am gweithredoedd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Wele, ei bwrw yr wyf ar wely; ac y rhai sy’n godinebu gyda hi, i orthrymder mawr, onid edifarhant oddiwrth ei gweithredoedd hi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Wele bwriaf hi ar wely, a’r rhai sy’n godinebu gyda hi i flinfyd mawr, onid edifarhânt am ei gweithredoedd hi;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wele, yr wyf fi yn ei bwrw hi ar wely, a'r rhai sydd yn godinebu gyda hi, i gystudd mawr, onid edifarhânt am eu gweithredoedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dw i'n mynd i wneud iddi ddioddef o afiechyd poenus, a bydd y rhai sy'n godinebu gyda hi yn dioddef hefyd os fyddan nhw ddim yn stopio gwneud beth mae hi'n ei ddweud.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wele, bwriaf hi i wely cystudd, a'r rhai sy'n godinebu gyda hi i orthrymder mawr, os nad edifarhnt am ei gweithredoedd hi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Wele, yr wyf yn ei bwrw hi ar wely, a'r rhai sydd yn godinebu gyda hi, i orthrymder mawr, onid edifarhânt am ei gweithredoedd hi.