Revelation 2:23 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac mi ladda y phlant a myrfolaeth: ar holl Eglwysi y gydnabyðant mae mi wyf yr hwn y ch whilia y ’rrennae ar caloney: ac mi a rrof y bob vn o hanoch yn ol ych gweithredoedd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac ei phlant a laddaf â marwolaeth; a gwybydd yr holl eglwysi mai Myfi yw’r Hwn sy’n chwilio arennau a chalonnau: a rhoddaf i chwi, i bob un, yn ol eich gweithredoedd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a’i phlant, lladdaf hwy â marwolaeth; a gwybydd yr holl eglwysi mai myfi yw chwiliwr arennau a chalonnau, a rhoddaf i chwi bob un yn ôl eich gweithredoedd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'i phlant hi a laddaf â marwolaeth: a'r holl eglwysi a gânt wybod mai myfi yw'r hwn sydd yn chwilio'r arennau a'r calonnau: ac mi a roddaf i bob un ohonoch yn ôl eich gweithredoedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydda i'n lladd ei dilynwyr hi, ac wedyn bydd yr eglwysi yn gwybod mai fi ydy'r Un sy'n gweld beth sydd yng nghalonnau a meddyliau pobl. Bydd pob un ohonoch chi yn cael beth mae'n ei haeddu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A lladdaf ei phlant hi yn gelain; ac fe gaiff yr holl eglwysi wybod mai myfi yw'r hwn sy'n chwilio meddyliau a chalonnau. Rhoddaf i chwi bob un yn l eich gweithredoedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'i phlant a laddaf â marwolaeth; a'r holl eglwysi a gânt wybod mai myfi yw yr hwn sydd yn chwilio yr arennau a'r calonnau: a rhoddaf i bob un o honoch yn ol eich gweithredoedd.