Revelation 2:24 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac y chwi y dwedaf, y gweddillion Thyateira, Ysawl bynac na does ganthynt y ddusc hon, ac ny adnabyont dyfnder Satan (mal y dwedant) ny ddodaf arnywch beych arall.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond wrthych chwi y dywedaf, y lleill y sydd yn Thuatira, cynnifer ag nad oes ganddynt y dysgad hwn, y rhai ni wyddant bethau dyfnion Satan, fel y dywedant, Nid wyf yn bwrw arnoch bwys arall.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond dywedaf wrthych chwi, y gweddill yn Thyatira, cynifer ag na ddaliant yr athrawiaeth hon, y sawl nad adnabuant, ys dywedant, ddyfnderau Satan: Ni fwriaf arnoch faich arall;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr wrthych chwi yr wyf yn dywedyd, ac wrth y lleill yn Thyatira, y sawl nid oes ganddynt y ddysgeidiaeth hon, a'r rhai nid adnabuant ddyfnderau Satan, fel y dywedant; Ni fwriaf arnoch faich arall.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Am y gweddill ohonoch chi yn Thyatira, sef y rhai sydd heb dderbyn beth mae hi'n ei ddysgu (sef ‛cyfrinachau dirgel Satan‛), wna i ddim rhoi dim mwy o bwysau arnoch chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wrth y gweddill ohonoch yn Thyatira, pawb nad ydynt yn derbyn yr athrawiaeth hon, ac sydd heb brofiad o'r hyn a elwir yn ddyfnderoedd Satan, rwy'n dweud hyn: ni osodaf arnoch faich arall,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr wrthych chwi yr wyf yn dywedyd, y gweddill y rhai sydd yn Thyatira, y sawl nid oes ganddynt y ddysgeidiaeth hon, a'r rhai ni wyddant bethau dyfnion Satan, fel y dywedant, Nid wyf yn bwrw arnoch faich arall.