Revelation 2:27 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac ef a rriola hwynt a gwialen hayarn, ac hwynt a ddryllir mal llestri pridd. Ac yny modd y dderbynes i gan vyn had,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac eu bugeilio a wna efe â gwialen haiarn, fel y mae’r llestri pridd yn cael eu chwilfriwio,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
bugeilia ef hwynt â gwialen haearn, fel llestri pridd y malurir hwynt —
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a'u bugeilia hwy â gwialen haearn; fel llestri pridd y dryllir hwynt: fel y derbyniais innau gan fy Nhad.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Bydd yn teyrnasu arnyn nhw gyda theyrnwialen haearn; ac yn eu malu'n ddarnau fel malu llestri pridd.” Bydd ganddyn nhw yr un awdurdod ag a ges i gan fy Nhad.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a bydd yn eu llywodraethu hwy gwialen haearn; malurir hwy fel llestri pridd
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac efe a'u bugeilia â gwialen haiarn, megys y mae llestri pridd yn cael eu dryllio ynghyd; fel y derbyniais innau hefyd gan fy Nhâd: